top of page

Cydweithio . Cysylltu . Cyd-gynhyrchu

GWELLA GWASANAETHAU I BOBL CYMRU

Mae HICO yn gasgliad o bobl sy'n darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth ymarferol yn bennaf i'r sector cyhoeddus a sefydliadau dielw.

Rydym yn rhoi timau pwrpasol at ei gilydd i gefnogi eraill i ddod o hyd i atebion i'r heriau y maent yn eu hwynebu.

Yn fyr, rydym yn bâr ychwanegol o ddwylo gyda'r sgiliau a'r profiad yn barod i ddechrau ar y gwaith.

Ein Gwerthoedd

01

Rydym yn canolbwyntio ar berthnasoedd 

02

Rydym yn seiliedig ar gryfderau 

03

Rydym yn angerddol am wasanaethau cyhoeddus

04

Rydym yn annog amrywiaeth o safbwyntiau

05

Rydym yn bragmatig

06

Mae gennym ethos 'un gwasanaeth cyhoeddus'     

Sut rydym yn gweithio

Rholiwch dros yr eiconau i gael rhagor o wybodaeth

Rhwydwaith amrywiol o bobl

8[1].png

Mae gennym rwydwaith amrywiol o gymdeithion gyda dealltwriaeth ddofn o arfer a pholisi.

Mae gennym ethos 'un gwasanaeth cyhoeddus' 

10[1].png

Rydyn ni’n gwneud ein gwaith o safbwynt ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus’ ac yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Adeiladu cydberthynas yn gyflym

12[1].png

Rydym yn ddilys ac yn meithrin cydberthynas yn gyflym. Mae ein cydbwysedd iach o sgiliau, a phwrpas moesol a rennir, yn ein galluogi i ddarparu amrywiaeth o feddwl a phrofiad gan arwain at gyfuniad unigryw sy'n greadigol ac wedi'i seilio ar realiti.

Cynnal Gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus

9[1].png

Rydym yn deillio o'r gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym brofiad sylweddol o weithio mewn ystod eang o leoliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector ac rydym am hyrwyddo a chadarnhau gwerthoedd y sector cyhoeddus ym mhopeth a wnawn.

Gwasanaethau Cymraeg a Saesneg

11[1].png

Rydym yn darparu ein gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod ni eisiau, nid oherwydd bod yn rhaid i ni.  Rydym yn dathlu ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru gyda’r iaith yn ganolog iddo.

Rydyn ni’n rhoi
yn ôl.

13[1].png

Rydym yn darparu mynediad i weithdai chwarterol am ddim sy’n berthnasol i’r heriau sector cyhoeddus sy’n effeithio ar les yng Nghymru. Mae’r rhain ar agor i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru.

bottom of page