

Cydweithio . Cysylltu . Cyd-gynhyrchu
GWELLA GWASANAETHAU I BOBL CYMRU
Mae HICO yn gasgliad o bobl sy'n darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth ymarferol yn bennaf i'r sector cyhoeddus a sefydliadau dielw.
​
Rydym yn rhoi timau pwrpasol at ei gilydd i gefnogi eraill i ddod o hyd i atebion i'r heriau y maent yn eu hwynebu.
​
Yn fyr, rydym yn bâr ychwanegol o ddwylo gyda'r sgiliau a'r profiad yn barod i ddechrau ar y gwaith.
Ein Gwerthoedd
01
Rydym yn canolbwyntio ar berthnasoedd
02
Rydym yn seiliedig ar gryfderau
03
Rydym yn angerddol am wasanaethau cyhoeddus
04
Rydym yn annog amrywiaeth o safbwyntiau
05
Rydym yn bragmatig
06
Mae gennym ethos 'un gwasanaeth cyhoeddus'
Sut rydym yn gweithio
Rholiwch dros yr eiconau i gael rhagor o wybodaeth
Rhwydwaith amrywiol o bobl
![8[1].png](https://static.wixstatic.com/media/2aea01_c5ffc382eac345e2bfd3a79bb9d9b32b~mv2.png/v1/fill/w_87,h_87,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/8%5B1%5D.png)
Mae gennym rwydwaith amrywiol o gymdeithion gyda dealltwriaeth ddofn o arfer a pholisi.
Mae gennym ethos 'un gwasanaeth cyhoeddus'
![10[1].png](https://static.wixstatic.com/media/2aea01_88784de224d648c4959790b5d3824841~mv2.png/v1/fill/w_87,h_87,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/10%5B1%5D.png)
Rydyn ni’n gwneud ein gwaith o safbwynt ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus’ ac yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Adeiladu cydberthynas yn gyflym
![12[1].png](https://static.wixstatic.com/media/2aea01_862726bba1af4bc2b12239001d8d4d72~mv2.png/v1/fill/w_87,h_87,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/12%5B1%5D.png)
Rydym yn ddilys ac yn meithrin cydberthynas yn gyflym. Mae ein cydbwysedd iach o sgiliau, a phwrpas moesol a rennir, yn ein galluogi i ddarparu amrywiaeth o feddwl a phrofiad gan arwain at gyfuniad unigryw sy'n greadigol ac wedi'i seilio ar realiti.
Cynnal Gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus
![9[1].png](https://static.wixstatic.com/media/2aea01_8d8af8297a4540f3866111c698e8976a~mv2.png/v1/fill/w_87,h_87,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/9%5B1%5D.png)
Rydym yn deillio o'r gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym brofiad sylweddol o weithio mewn ystod eang o leoliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector ac rydym am hyrwyddo a chadarnhau gwerthoedd y sector cyhoeddus ym mhopeth a wnawn.
Gwasanaethau Cymraeg a Saesneg
![11[1].png](https://static.wixstatic.com/media/2aea01_353bd55f4bcf41618c652ce978c0f78d~mv2.png/v1/fill/w_87,h_87,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/11%5B1%5D.png)
Rydym yn darparu ein gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod ni eisiau, nid oherwydd bod yn rhaid i ni. Rydym yn dathlu ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru gyda’r iaith yn ganolog iddo.
Rydyn ni’n rhoi
yn ôl.
![13[1].png](https://static.wixstatic.com/media/2aea01_dda9258ff67a4457b487407329e10e61~mv2.png/v1/fill/w_87,h_87,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/13%5B1%5D.png)
Rydym yn darparu mynediad i weithdai chwarterol am ddim sy’n berthnasol i’r heriau sector cyhoeddus sy’n effeithio ar les yng Nghymru. Mae’r rhain ar agor i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru.